5.4.06

Cefndir

Mae 'na beth i'w darllen ym mhob uned y cwrs. Yn uned 2, mae'r cefndir yn sôn am yr Iaith Gymraeg mewn addysg. Do'n i ddim yn gwybod bod y Gymraeg wedi cael ei defnyddio fel cyfrwng addysg yn fwy nag unrhyw un o ieithoedd modern eraill Ewrob yn ystod y Canol Oesoedd.

Dw i angen panad - mae hi'n braf allan yn yr haul ond mae hi'n oer iawn yn y gwynt.

Hwyl.

4.4.06

Cwrs Meistroli

Dan ni wedi dechrau cwrs Meistroli mis yn ôl. Hefyd, dan ni'n darllen llyfr - mae pawb yn y dosbarth yn hapus efo Dyddiadur Gbara gan Bethan Gwanas. Ar ddydd Sadwrn, mi brynes i Miri a Mwyar ac Ambell Chwip Dîn mewn siop elusen - bargen am 99c!
Dydy cwrs Meistroli yn haws nag Uwch, ond mae 'na bethau da yn y cwrs Meistroli - idiomau. Mewn pob uned, mae 'na idiomau sy'n dechrau efo'r un gair: tynnu (tynnu blewyn o drwyn rhywun, tynnu stumiau ar, tynnu lluniau..); codi (codi ofn ar, codi bys bach, codi twrw...); dal (dal dig, does dim dal arno, dalier sylw...). Un peth arall ydy gweld sut mae'r geiriau yn newid fel gwlad: gwledydd, gwladol, rhyngwladol, gwledig, gwladaidd, gwlatgarol. Neithiwr, wnaethon ni'r geiriau llwydo a methu: llwyddo i, llwyddiant, llwyddiannus, aflwyddiannus, methu â, methiant, methedig. Dan ni'n llenwi bylchau er mwyn ymarfer y geiriau.
Dan ni'n neud Gramadeg hefyd. Oes 'na "yn" yn y brawddeg. Do'n i ddim yn sylw bod rhai ohonon ni'n dweud pethau fel "wnes i ddim yn mynd" "rhaid i mi yn mynd"
Rhaid i mi fynd rwan....

4.3.06

Eira

Mae ‘na eira yng Nghaernarfon. Lle mae’r haul yn gwenu, mae’r eira yn toddi.
Ar Ddydd Gw^yl Dewi roedd yr ysgol, lle mae fy mab yn mynd, wedi cau ac roedd fy nosbarth wedi cael ei ganslo hefyd,. Roedden ni’n mynd i ddechrau Cwrs Meistroli. Hefyd, dan ni’n mynd i ddechrau darllen llyfr Cymraeg. Roedd y tiwtoriaid wedi awgrymu Tân ar y Comin gan T. Llew Jones. Mi gaethon ni bennod 1 a darllenes i’r pennod yn ystod hanner tymor. Roedd mor diflas, ’swn i byth yn darllen y stori hon yn Saesneg. Roedd y dewis cyntaf, sef Miri a Mwyar ac Ambell Chwip Dîn, yn allan o brint. Roedden ni’n sôn am Bethan Gwanas. Mae’r rhan mwyaf ohonon ni wedi darllen y tri llyfr am Blodwen Jones. Mae Bethan Gwanas wedi ysgrifennu dyddiadur am ei bywyd yn Affrig pan fuodd hi’n gweithio yno efo VSO, sef Dyddiadur Gbara. Dw i wedi prynu’r llyfr mewn siop elusen am bunt. Dw i’n prynu llawer o lyfrau Cymraeg yn siopau elusen.
Rôn i wedi gofyn i’m ngw^r am lyfrau Cymraeg. Cymro ydy o. Mae o’n siarad Cymraeg ond dydy o ddim yn siarad Cymraeg efo fi. Dydy o ddim yn darllen llyfrau Cymraeg hefyd. Un rheswm ydy’r gwahaniaeth rhwng iaith siarad ac iaith lenyddol.

1.3.06

Esgus, ella

Dw i wedi bod yn esgeuloso’r blog ‘ma. Ro’n i wedi bod yn meddwl am bethau teuliol a chofio am fy nhad. Roedd ganddo wybodaeth am sawl iaith. Mi fuodd o’n astudio ieithoedd Asia, fel Sanskrit, Pali ac dw i’n meddwl fod o’n medru siarad Sinhalese a Tamil. Ro’n i’n eitha’ siomedig fod o ddim dysgu Sinhalese i mi er bod Sinhalese yn iaith brin yn Llundain. Weithiau, dw i’n cael isio mynd i Sri Lanka (lle cafodd o ei eni a’i fagu) ond ’swn i ddim isio mynd yno achos mod i ddim yn medru siarad/deall yr iaith. Mi fuodd o’n byw yn Nhalaith Matara lle oedd ‘na ddinistr gan y tsunami. Dw i ddim yn gwybod llawer am ei fywyd yno heblaw straeon am gael ffrwythau ecsotig yn yr ardd. Doedd o ddim yn licio star fruit o gwbl. Mae hen ffrind o’r ysgol gynradd yn byw yno. Mae ei theulu’n byw yn Dehiwala, dre lle oedd rhai ardaloedd wedi cael eu difrodi. Roedd hi wedi fy nhwahoddiad i aros hefo hi blynyddoedd yn ôl, ond es i ddim.
Ar ôl iddo fo farw, roedd fy mam wedi dweud straeon am fywyd fy rhieni yn niwedd y chwedegau wrtha i. Roedd pobl o Sri Lanka’n meddwl mai cyfoethog oedd fy nhad. Roedden nhw’n gofyn iddo fo am geir, nwyddau gwynion. Pan oedden nhw’n ymweld heb rybudd, roedden nhw’n mynnu hawlio’r bwyd oedd ar plât fy mam, neu isio diffod y gwres canolog pan oedd fy mrawd tua mis oedd ym mis Hydref. Doedd hynny ddim yn deg - pobl diethr yn rhoi gorchymion yn ein cartref. Yn y diwedd, doedden nhw ddim yn medru dod heb ganiatâd. Felly, dw i’n meddwl bod fy nhad wedi troi ei gefn ar ei wreiddiau.

24.2.06

Pedwar peth

Pedwar swydd dw i wedi’u cael1) Barforwyn2) Ymchwilwraig farchnata3) Isymchwilwraig mewn prifysgol4) Mam
Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd1) Touching the Void2) Twin Peaks: Fire walk with me3) Shark’s Tale4) Madagascar
Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw1) Bromley, Caint2) Wood Green, Llundain3) Bristol4) Belfast
Pedwar rhaglen teledu dw i’n eu caru1) Casualty & Holby City2) Ivor the Engine3) CSI4) The Prisoner
Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau1) Majorca2) Llychlyn3) Kerry, Iwerddon4) Kilifi, Kenya
Pedwar o’m hoff brydau bwyd1) Curri neis2) Llysiau o’m rhantir efo cig neis3) w^y wedi’I led-ferwi a bara4) brechdan grasu efo caws a nionyn.
Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd1) news.bbc.co.uk2) play.yahoo.com (efo fy mab sy’n 4 oed)3) negeseuon e-bost ar Hotmail4) fy blog am ddysgu ysgrifennu creadigol
Pedwar lle hoffwn i bod yn y munud hwn1) Mewn caffi neis ar fy mhen fy hun (’swn i’n licio bod rhywle dw i’n medru ysgrifennu’n creadigol)2) Mewn bath efo jacuzzi3) Yn fy ngwely’n cysgu4) Rhywle tipyn yn gynhesach nag yma

8.12.05

Mwy am fy nhad

Mae'n teimlo'n amser hir rhwng marwolaeth fy nhad ac amlosgiad. Roedd 'na lawer o gwestiynau dylwn i fod wedi gofyn iddo fo ond... Mi gaeth o doriad ar ei galon yn ystod hanner tymor ac wedyn cael haint y frest, trawiad, problemau gyda llyncu... Pan o'n i'n ymweld â fo, roedd 'na sŵn fel byrlymog ac roedd 'na hylif ar ei ysgyfaint. Roedd o'n medru fy nghydnabod i ar ddydd Gwener, ond erbyn p'nawn dydd Sadwrn wnaeth o ddim agor ei lygaid. Doedd y doctor ddim yn obeithiol amdano fo. Roedd o'n syndod bod fy nhad yn byw tan bore dydd Sul. Bu farw fy nhad am 5.30 yb ar 27ain o Dachwedd. 'Sen ni'n bod yn yr ysbyty ar y pryd, 'sen ni ddim wedi bod yn medru ei weld o.

6.12.05

Mae'r Bardd yn dychwelyd!

Es i i'r noson sgorsio Caernarfon heno ac ro'n i wedi synnu bod Ifor ap Glyn yn medru dod. Mae o wedi bod yn brysur iawn. Mi gaeth ei raglen Popeth yn Gymraeg ei darlledu wythnos diwetha'. 'Sgen i ddim teledu ond wnes i ddarllen y blog ddoe.

Mi welon ni raglen 04 Wal am dŷ Sian Lloyd yn y dosbarth - diddorol iawn. O'r blaen, roedden ni wedi gweld Cwpwrdd Dillad, ac y newyddion ar fideo yn y dosbarth.

Mae Cyd yn neud cystadleuath Scrabble yn Gymraeg blwyddyn nesa' ac ro'n i'n meddwl am Countdown a gêmau eraill. Roedd rhaglen Countdown yn dod o Ffrainc (Des chiffres et des lettres). Beth am neud y rhaglen yn Gymraeg. Dw i'n licio chwarae gêmau Steve Jackson, Talisman a gwyddbwyll (mae Chess yn haws dweud). Beth am eu cyfiethu nhw ar gyfer defnydd personol? Roedd 'na sôn am nued Chess yn fwy diddorol ond beth am ddefnyddio gêm "Knightmare Chess" gan Steve Jackson (addasiad Tempete sur l'Echequier) "Move one of your opponent's bishops so that is captures one of his pieces"

27.11.05

Trist

Bu farw fy nhad heddiw. Roedd o'n dioddef.

23.11.05

Dw i wedi blino!

Mae'r tywydd wedi oeri. Roedd 'na farrug wythnos diwetha'. Neithiwr, roedd 'na niwl. Mi gaeth Yr Wyddfa dipyn bach o eira wythnos diwetha' hefyd.

Mi golles i ddau ddosbarth wythnos diwetha' - roedd 'na annwyd arna' i (pesych, cur pen, dolur gwddw,...) ac roedd rhaid i fy ngŵr weithio yn hwyr. Ond, ro'n i'n well erbyn nos Iau - noson sgorsio Llanwnda! Roedd 'na ddwy ddysgwraig ac un swyddog Cyd yno.

Es i i'r noson sgorsio Bangor ar y seithfed - llawer o bobl (wel, mae'r dosbarthiadau'n cael hysbysebion am y noson). Es i i Waunfawr ar y nawfed - doedd 'na ddim pwynt.

Mae gen i lyfr o lyfrgell Bangor - "The Complete Short Stories" gan J.G. Ballard - diddorol iawn. 'Swn i'n licio darllen rhywbeth fel 'na yn Gymraeg, ond 'sgen i ddim syniad am awduron Cymreig sy'n sgwennu yn genre 'na. Dw i wedi darllen pob un yng nghyfres Nofelau Nawr, ac dw i'n hanner ffordd trwy addasiad Wythnos yng Nghymru Fydd.

3.11.05

Clwb dysgwr Pwllheli

Heno, nos Iau gyntaf yn y mis oedd noson sgorsio yn Mhwllheli. Heddiw, ar ôl i mi roi siec mewn yn y banc, brynes i Scrabble yn Gymraeg. Ei i â'r gêm i'r noson. Mi wnaethon ni ei chwarae. Ches i ddim llafariaid o gwbl y tro cyntaf! Dôn i ddim yn medru mynd heb cael gwared â rhai ohonyn nhw (ac aros am fy nhro nesa'). Roedd pedwar ohonon ni'n chwarae. Gaethon ni hwyl ac wnaethon ni ddysgu rhywbeth! Mi wnes i ennill. Roedd yn anodd cofio bod "th", ac ati, yn un llythyren!
Dw i ddim yn mynd yno'n aml. Mae'n ddigon o bell i mi ar y bws. Dydd Sadwrn ar ôl nesa', mae 'na Sadwrn Siarad yno (sy'n cael ei drefnu gan Menter Iaith). Ella', a' i yno.